Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
11 Chwefror 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6081
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leddfu’r sefyllfa sy’n wynebu trigolion Dyffryn Conwy yn dilyn y llifogydd diweddar?
Dechreuodd yr eitem am 13.45
Gofynnwyd cwestiwn 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.42
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Dechreuodd yr eitem am 15.43
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi:
a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;
b) y rhaglen ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am restr glir a syml o ddangosyddion y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
1 |
28 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
1. Yn nodi:
a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;
b) y rhaglen ddeddfwriaethol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
10 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.13
Daeth y cyfarfod i ben am 18.14
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 12 Chwefror 2020